Is-ddeddfwriaeth sydd ag Adroddiadau Clir
27 Ebrill 2020
SL(5)536 – Deddf Erthylu 1967- Cymeradwyo Man Triniaeth ar gyfer Terfynu Beichiogrwydd (Cymru) 2020
Cefndir a Diben
Gwneir y Gymeradwyaeth hon gan Weinidogion Cymru o dan bwerau a roddir iddynt gan Ddeddf Erthyliad 1967. Mae'r Gymeradwyaeth yn darparu:
· bod cartref ymarferydd meddygol cofrestredig yn cael ei gymeradwyo fel dosbarthiad o le i roi triniaeth ar gyfer terfynu beichiogrwydd at ddibenion rhagnodi dim ond y meddyginiaethau a elwir yn Mifepristone a Misoprostol;
· mae cartref menyw feichiog sy'n cael triniaeth at ddibenion terfynu ei beichiogrwydd yn cael ei gymeradwyo fel dosbarthiad o le lle gellir cynnal y driniaeth ar gyfer terfynu beichiogrwydd.
Rhaid cynnal y driniaeth yn y modd a ganlyn:
· mae'r fenyw feichiog wedi— (i) mynychu lle cymeradwy (h.y. ysbyty yng Nghymru, fel yr awdurdodwyd o dan adran 1(3) o Ddeddf Erthyliad 1967, neu le yng Nghymru a gymeradwyir o dan yr adran honno); (ii) wedi ymgynghori â lle cymeradwy trwy gyswllt fideo, cynhadledd ffôn neu ddulliau electronig eraill, neu (iii) ymgynghori ag ymarferydd meddygol cofrestredig trwy gyswllt fideo, cynhadledd ffôn neu ddulliau electronig eraill, a
· rhagnodir Mifepristone a Misoprostol i'r fenyw feichiog i'w chymryd at ddibenion terfynu ei beichiogrwydd ac nid yw’r beichiogrwydd wedi bod yn fwy na naw wythnos a chwe diwrnod ar yr adeg y cymerir y Mifepristone.
Bydd y Gymeradwyaeth yn lleihau'r angen am gyswllt cymdeithasol ac felly'n lleihau'r risg ddiangen o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws.
Gweithdrefn
Dim gweithdrefn.
Rhiant-Ddeddf: Deddf Erthylu 1967
Fe’u gwnaed ar: 01 Ebrill 2020
Fe’u gosodwyd ar:
Yn dod i rym ar: